scott-webb-O0T1SIgHAfM-unsplash.jpg

Defnyddir fframweithiau cymwysterau i ddisgrifio cymwysterau mewn ffordd gyson sy'n eu gwneud yn haws eu deall a'u cymharu. Mae gan bob cymhwyster o fewn fframwaith lefel sy'n dangos pa mor anodd ydyw a gwerth credyd sy'n dynodi maint y cymhwyster. Mae hyn yn caniatáu i ddysgu gael ei gydnabod ar draws gwahanol wledydd ac ar draws gwahanol sefydliadau. Mae'n ei gwneud yn haws i fyfyrwyr a gweithwyr symud rhwng sefydliadau ac i wahanol wledydd i weithio ac astudio. 

Isod mae dolenni i'r fframweithiau cymhwyster a ddefnyddir gan wahanol gyrff yn y DU ac Iwerddon: 

Cymru Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) 

Yr Alban Fframwaith Credydau a Chymwysterau'r Alban (SCQF) 

Lloegr a Gogledd Iwerddon Egluro'r RQF

Iwerddon Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol NFQ 

Mae cymwysterau yn y DU ac Iwerddon yn cael eu cymharu mewn dogfen o'r enw Cymwysterau Draws Ffiniau. Caiff hwn ei ddiweddaru'n rheolaidd ac mae'n cynnwys fframweithiau prentisiaeth yn ogystal â chymwysterau rheoleiddiedig. 

Addysg Uwch Mae un fframwaith ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac un ar wahân ar gyfer yr Alban. Cyfunir y ddau mewn un cyhoeddiad. Fframweithiau Cymwysterau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (QAA)

Gellir defnyddio fframweithiau hefyd i gasglu dysgu sy'n digwydd y tu allan i gymwysterau ffurfiol, er enghraifft cyrsiau hyfforddi yn y gweithle neu ddysgu trwy brofiad o wneud swydd benodol. Mae Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) yn galluogi pobl sydd â hyfforddiant heb fod yn ffurfiol ac sydd â dysgu anffurfiol o brofiad i ddefnyddio'r dysgu hwn i gael mynediad i hyfforddiant ffurfiol neu mewn ceisiadau am gyflogaeth. 

Gwybodaeth Bellach 

Adrian Sheehan a Phil Whitney yw'r prif gysylltiadau ar gyfer y fframweithiau cymhwyster mewn colegau addysg bellach yng Nghymru. 

Adrian.Sheehan@Colegaucymru.ac.uk 
Phil.Whitney@ColegauCymru.ac.uk

Tudalennau Cysylltiedig

Fframweithiau Rhyngwladol

Cydnabod Dysgu Blaenorol

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.