#TeachPod - Meddwl am Wydnwch

TeachPod banner.png

Dyma bodlediad yng nghwmni Helen Lloyd Cydlynydd Pwnc ol-16 a DSW Iechyd a Gofal i'r Coleg Cymraeg a Carys Swain Rheolwr Gwasanaethau Myfyrwyr a'r Gymraeg yng Ngholeg Pen-y-bont. ‘Meddwl am wydnwch’ yw thema'r Podlediad hwn, ac mae’r drafodaeth yn cynnwys sgwrs am adnoddau Bloom UK. Mae Bloom UK yn rhaglen gan Mental Health UK sy’n annog a helpu myfyrwyr yn eu glasoed i ddatblygu sgiliau gwydnwch/dygnwch er mwyn iddynt allu helpu eu hunain a’u cyfoedion gyda chyfnodau allweddol yn eu bywydau. Mae Helen Lloyd yn un o hyfforddwyr cysylltiol y rhaglen ac yn bennaf gyfrifol am ddarparu sesiynau yn Gymraeg i golegau ac ysgolion ledled Cymru. Cawn hefyd gipolwg ar rai o’r cynlluniau a phrosiectau sydd ar waith yn ein colegau wrth drin a thrafod cynllun ‘Meddwl am dy feddwl’ Coleg Pen-y-bont a sut maent wedi mynd ati dan fwriad i drefnu pecyn o gefnogaeth i ddysgwyr a chael cydnabyddiaeth am hynny mewn arolwg thematig diweddar gan ESTYN.

Adnoddau

Follow Us

Follow us on social media for updates on all things further education.